RHEOLWR CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT AM Y SWYDD WAG YMA ADRAN A CHYFLOG Adran – Gwasanaethau Corfforaethol Cyflog – Graddfa 9 43,376.05 – 46,465.50 Oriau Gwaith – 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg) Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaeth strategol allweddol i Chwaraeon Cymru ac rydym yn mynd ati i geisio amrywio ein gweithlu ymhellach. Bydd ymgeiswyr o gefndir amrywiol sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl yn sicr o gael cyfweliad fel rhan o’r dull yma o weithredu. PWY YDYM NI Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd. Rydym yn gyflogwr blaengar sy’n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i’ch cefnogi. Mae Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a’ch cartref, i gyd-fynd orau â’ch amgylchiadau personol. SUT BYDDWCH YN CYFRANNU Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol ac angerddol i arwain ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Chwaraeon Cymru. Mae hon yn rôl newydd o fewn y sefydliad, gan roi’r annibyniaeth i ddeiliad y swydd lywio cyfeiriad y gwaith hwn, yn fewnol ac wrth gefnogi’r sector chwaraeon ehangach. Byddwch yn cael yr holl gefnogaeth ac adnoddau i gyflawni’r rôl hanfodol hon yn effeithiol, gydag ymgysylltu o bob rhan o’r sefydliad. Mae hwn yn gyfle i gael effaith wirioneddol a pharhaol ar Chwaraeon Cymru a’r sector ehangach. Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel canolbwynt, gan hyrwyddo gwaith presennol a newydd i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o ddiwylliant ein sefydliad. BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad clir o arwain gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn amgylchedd cymhleth. Byddwch yn dod â syniadau newydd, ymrwymiad i ddysgu’n barhaus a’r gallu i ddylanwadu ar eraill. Byddwch yn defnyddio naill ai eich profiadau byw eich hun neu’n ymgysylltu ag eraill â phrofiadau byw i fynd i’r afael â’r rhwystrau a wynebir gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Os oes gennych chi’r brwdfrydedd a’r ymrwymiad i helpu i wireddu ein huchelgeisiau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. DYDDIAD CAU 9:00 14 Hydref 2022 Mae’r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Y gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yw rhai Asiantaeth Gyflogaeth. EQUALITY, DIVERSITY AND INCLUSION MANAGER ABOUT THIS VACANCY DEPARTMENT AND SALARY Department – Corporate Services Salary – Grade 9 43,376.05 – 46,465.50 Working Hours – 37 hours (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy) Equality, diversity and inclusion is a key strategic priority for Sport Wales and we are actively seeking to further diversify our workforce. Applicants from a diverse background who meet the essential criteria for the role will be guaranteed an interview as part of this approach. WHO WE ARE Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. We are the main adviser on sporting matters to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds. We aim to not only improve the level of sports participation at grassroots level but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage. We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you. Sport Wales embraces a blended approach to work, where you will be able to split your time between the office and home to best suit your personal circumstances. HOW YOU’LL CONTRIBUTE We are looking for an experienced and passionate individual to lead on equality, diversity, and inclusion at Sport Wales. This is a new role within the organisation, giving the postholder the autonomy to shape the direction of this work, both internally and in supporting the wider sports sector. You will be provided with all the support and tools to perform this crucial role effectively, with engagement from across all areas of the organisation. This is an opportunity to make a real and lasting impact on Sport Wales and the wider sector. The postholder will act as a focal point, championing existing and new work to ensure that equality, diversity, and inclusion are embedded within our organisational culture. WHAT YOU’LL NEED We are looking for candidates who have demonstrable experience of leading work on equality, diversity, and inclusion in a complex environment. You’ll bring new ideas, a commitment to continuously learning and an ability to influence others. Drawing on either your own lived experiences or engaging others with lived experiences to tackle barriers faced by people from diverse backgrounds. If you have the enthusiasm and commitment to help realise our equality, diversity, and inclusion ambitions, we’d love to hear from you. CLOSING DATE 9:00am 14 October 2022 This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.
Source ⇲
Reed.co.uk - job search results